Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych: Asesu Lles ein Siroed
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn gyfrifol am gwblhau asesiad o lesiant lleol ar gyfer eu hardal. Mae’r Asesiad Lles yma yn dwyn ynghyd dystiolaeth, data a lleisiau lleol i ddeall lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yr ardal, yn awr ac yn yr hirdymor. Mae’n edrych ar sut mae gwahanol ffactorau’n gysylltiedig, ble mae anghydraddoldebau’n bodoli, a beth yw’r risgiau a’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y dyfodol.
Helpwch i lunio dyfodol ein Siroedd
I gefnogi eu gwaith asesu, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi lansio dau arolwg yn ddiweddar i gwmpasu ein siroedd:
Mae’r arolygion ar agor nawr a bydd yn cau ar ddydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026. Rhannwch hwn ag unrhyw un a allai elwa arno. Rydym yn awyddus i gyrraedd ystod eang o fudd-ddeiliad a’u hannog i gwblhau’r arolwg i rannu eu barn
Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r ymgysylltiad hwn yn cael ei chyfuno â thystiolaeth arall i lunio’r Asesiad Lles, a fydd yn ei dro yn cael ei ddefnyddio gan y BGC i osod amcanion lles sy’n helpu i greu dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod yr amcanion hyn wedi’u seilio ar brofiad byw ac yn adlewyrchu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yma.
Canllaw Sgyrsiau Lles 2026
Mae’r pecyn gwaith isod yn darparu strwythur syml i gefnogi sgyrsiau pwysig ynghylch lles ein Sir heddiw, a’r hyn sydd angen ei wneud i ddiogelu neu wella lles cenedlaethau’r dyfodol.
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Strwythur a Chanllaw
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Iaith Syml
Sgyrsiau llesiant 2026 – Pobl Ifanc
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Taflen waith Ieuenctid
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Taflen waith Oed cynradd
Fe’ch gwahoddir i lenwi y canllaw sgyrsiau lles ynghlwm o’ch safbwynt chi. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r canllawiau i nodi barn a fynegwyd yn ystod cyfarfod cymunedol neu grŵp a fynychwyd gennych. Mae fformatau eraill ar gael ar gais, yn cynnwys fersiynau pobl ifanc a phlant.
Fe’ch gwahoddir i lenwi y canllaw sgyrsiau lles ynghlwm o’ch safbwynt chi. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r canllawiau i nodi barn a fynegwyd yn ystod cyfarfod cymunedol neu grŵp a fynychwyd gennych. Mae fformatau eraill ar gael ar gais, yn cynnwys fersiynau pobl ifanc a phlant.
Os ydych chi’n gwybod am gyfleoedd ymgysylltu neu arnoch chi eisiau cefnogaeth hwylusydd ar gyfer trafodaeth grŵp, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i SgwrsySir@conwy.gov.uk neu timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk.