Asesiadau llesiant
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022 cynhaliwyd ymgynghoriad ar yr asesiadau drafft. Bydd y ddau Asesiad ar gyfer y sir gyfan yn helpu’r Bwrdd i gynllunio eu blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.
Asesiad llesiant Gwynedd
Gwynedd
Gwynedd - Y Data Asesu
Y Llyfrynnau Ymgynghori Drafft
Asesiad llesiant Ynys Môn
Y Data Asesu
Y Llyfrynnau Ymgynghori Drafft
Cynllun llesiant Gwynedd a Môn
Ein gweledigaeth fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw cydweithio i sicrhau bod ein cymunedau’n ffynnu ac yn llwyddo yn yr hirdymor. Nod y Cynllun Llesiant yw nodi sut yr ydym yn mynd i gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion Ynys Môn a Gwynedd. Fel darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, byddwn yn cydweithio i gyflawni uchelgais gyffredin ar gyfer yr holl ranbarth.
Bydd y sefydliadau unigol yn parhau i ddarparu gwasanaethau a fydd yn cyflawni eu hamcanion llesiant eu hunain yn ogystal â chyfrannu at amcanion llesoasnt y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae ymgysylltu â chymunedau yn greiddiol i lwyddiant y cynllun ac mae’r Bwrdd yn ymrwymo i ddarparu canllawiau clir er mwyn cyflawni ei amcanion.
Mae gennym gymunedau cryf a balch gyda thraddodiad o helpu ein gilydd a gweithio gyda’n gilydd. Bydd rôl y cymunedau hyn yn ganolog i gyflawni’r amcanion llesiant a nodir yn y cynllun hwn.
Dylai’r amcanion, a’r camau i’w cyflawni, ar ôl eu cwblhau, fod yn gysylltiedig a chynorthwyo ei gilydd oherwydd eu natur drawsbynciol. Dylai pob aelod o’r Bwrdd allu chwarae eu rhan lawn wrth gyflawni’r hyn a ddisgwyliwn gan y cynllun.

Ein haelodau
Aelodau statudol:
Dafydd Gibbard
Prif Weithredwr, Cyngor Gwynedd
Dylan Williams
Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn
Nia Wyn Jeffreys (Cynghorydd)
Arweinydd, Cyngor Gwynedd
Gary Pritchard (Cynghorydd)
Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn
Victoria Peach
Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig Dros Dro (Gorllewin), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Martin Cox
Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Orllewin, Cyfoeth Naturiol Cymru
Justin Evans
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Aelodau gwahoddir:
Siôn Peters-Flynn
Pennaeth Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, Grŵp Llandrillo-Menai
Arwel Hughes
Dafydd Gwynne
Prif Swyddog Cynorthwyol, Tîm Iechyd y Cyhoedd (BIPBC)
Bethan Russell Williams (3ydd Sector)
Prif Swyddog, Mantell Gwynedd
Glyn Jones
Andy Jones
Uwch Swyddog Prawf, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru
Lyndsey Campbell-Williams (3ydd Sector)
Prif Swyddog, Medrwn Môn
Yr Athro Andrew Edwards (Cadeirydd)
Dirprwy Is-ganghellor, Prifysgol Bangor
Jonathan Cawley
Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri


