Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam, mae Prosiect 100 o Straeon yn rhoi’r cyfle i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o’r systemau cymhleth y mae’n rhaid i bobl ifanc eu llywio wrth drawsnewid o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Drwy wrando ar brofiadau gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, mae’r prosiect yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu wrth symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu’r rhai sy’n gweithredu’r penderfyniadau i ddeall ble mae angen gwella ac i gefnogi cyd-gynhyrchu a dysgu sy’n seiliedig ar systemau.