Mae’r bwrdd stori hwn yn rhannu rhai o’r bobl, y lleoedd a’r diddordebau sy’n bwysig i’r unigolyn ifanc. Mae’n sôn am deulu, chwaraeon ac atgofion personol pwysig, gan gynnwys yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel diwrnod gorau ei fywyd. Mae’r bwrdd stori hefyd yn cydnabod nad oes gan bob plentyn ac unigolyn ifanc deulu o’u cwmpas i’w cefnogi.
Mae rhan olaf y bwrdd stori yn gofyn cwestiwn pwysig am y cyfnod pontio: os yw gwasanaethau yn stopio pan fydd unigolyn ifanc yn troi’n 18 oed, beth fydd yn digwydd ar ôl i’r unigolyn ifanc droi’n 18 oed?