Helpwch i lunio dyfodol ein siroedd
Rydym yn awyddus i glywed barn a syniadau trigolion Gwynedd a Môn a rydym o’r farn ei bod yn hanfodol clywed llais pawb a’u cydnabod. Hoffem glywed gennych chi am y pethau sy’n effeithio arnoch chi a’r hyn yr hoffech ei weld yn newid o ran llesiant ein cymunedau i’r dyfodol.
Drwy e-bost: BGC-PSB@gwynedd.llyw.cymru
Drwy’r post:
Tîm Cefnogi Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn
Cyngor Gwynedd
Stryd y Jêl
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1SH
Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r ymgysylltiad hwn yn cael ei chyfuno â thystiolaeth arall i lunio’r Asesiad Llesiant, a fydd yn ei dro yn cael ei ddefnyddio gan y BGC i osod amcanion llesiant sy’n helpu i greu dyfodol gwell i genedlaethau’r dyfodol. Mae eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod yr amcanion hyn wedi’u seilio ar brofiad byw ac yn adlewyrchu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y ddwy sir.
Mae’r arolygon ar agor rŵan a bydd yn cau ddydd Gwener, Awst 28ain 2026. Rhannwch y linciau sgyrsiau llesiant isod gydag unrhyw un a allai elwa ohono.
Er mai holiadur ar draws y ddwy Sir yw hwn, byddwn yn paratoi’r wybodaeth ar sail 22 ardal llesiant gyda’r gobaith y byddwch yn adnabod eich hardal chi yn yr asesiadau gorffenedig. Gwerthfawrogwn pe byddech yn cynnwys eich cod post llawn wrth ymateb er mwyn i ni allu adnabod ym mha ardal llesiant yr ydych yn byw, a bod eich ymateb yn cael ei gynnwys yn yr asesiad llesiant i’r ardal gywir. Nid yw’n cael ei ddefnyddio i’ch adnabod.
Canllaw Sgyrsiau Llesiant 2026
Mae’r pecyn gwaith isod yn darparu strwythur i gefnogi sgyrsiau pwysig ynglŷn â llesiant y ddwy sir heddiw, a’r hyn sydd angen ei wneud i ddiogelu neu wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Strwythur a Chanllaw
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Iaith Syml
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Pobl Ifanc
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Taflen Waith Ieuenctid
Sgyrsiau Llesiant 2026 – Taflen Waith Oed Cynradd
Fe’ch gwahoddir i lenwi y canllaw sgyrsiau llesiant sydd ynghlwm o’ch safbwynt chi. Hefyd, gallwch ddefnyddio’r canllaw i nodi barn a fynegwyd yn ystod cyfarfod cymunedol neu grŵp a fynychwyd gennych chi. Mae fformatau eraill ar gael ar gais, yn cynnwys fersiynau pobl ifanc a phlant.
Os ydych chi’n gwybod am gyfleoedd ymgysylltu neu eich bod yn dymuno cael cefnogaeth hwylusydd ar gyfer trafodaeth grŵp, cysylltwch â ni drwy anfon e bost i: BGC-PSB@gwynedd.llyw.cymru.