Yn y fideo hwn, mae’r cyfranogwr yn siarad am y pwysau cynyddol ar blant, pobl ifanc, rhieni a staff ysgolion.
Maent yn rhannu pryderon am iechyd meddwl, straen a lles, ac yn egluro pam eu bod yn teimlo bod angen i addysg weithio’n wahanol.
Mae’r fideo hefyd yn edrych ar bwysigrwydd gwrando ar bobl ifanc, teuluoedd, athrawon a sefydliadau cymunedol, a gweithio gyda’n gilydd i wneud addysg yn fwy cefnogol, creadigol a thosturiol.
Nodyn hygyrchedd: Mae’n ddrwg gennym nad yw isdeitlau Cymraeg ar gael ar gyfer y fideo hwn. Mae’r fideo wedi’i gynnal ar sianel YouTube y cyfranogwr ei hun, felly nid ydym yn gallu ychwanegu na newid yr isdeitlau ein hunain.