
Stori brawf
Dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chenhadaeth Ddinesig Prifysgol Wrecsam, mae Prosiect 100 Stori yn rhoi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'r systemau cymhleth y mae'n rhaid i bobl ifanc eu llywio wrth bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion.
Trwy gasglu profiadau gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, bydd y prosiect yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i'r heriau yn y maes hwn. Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu llunwyr penderfyniadau i nodi ble mae angen newid ac yn cefnogi camau parhaus trwy gydgynhyrchu a datblygu cylchoedd dysgu sy'n seiliedig ar systemau.