Neidio i'r prif gynnwys
Agenda
  • Amdanom
  • Partneriaethau
  • Dyddiadau allweddol
  • Mewnwelediadau
  • Cyswllt
ENG
  • Amdanom
  • Partneriaethau
  • Dyddiadau allweddol
  • Mewnwelediadau
  • Cyswllt

Chwilio'r safle

Dechreuwch deipio i chwilio...

← Pob Mewnwelediad

Prosiect Herio a Chwalu’r Mythau Cymraeg yn y Gweithle

Gan Claire Burgess

9 Tach 2026

Lle gwaith
Six people sat side by side in front of a banner

Is-Grŵp Iaith – Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn

Mae’r Is-Grŵp Iaith yn gyfrifol am sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn flaenoriaeth barhaol o fewn Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn ac yn datblygu prosiectau sy’n canolbwyntio ar faterion o bwys sy’n codi gan aelodau’r Bwrdd. Adnabuwyd yr her sy’n bodoli ynglŷn â’r mythau o fod yn gweithio o fewn sefydliadau cyhoeddus drwy gyfrwng y Gymraeg gan yr aelodau, a lluniwyd y brîff ar gyfer y gwaith gan gynrychiolwyr iaith y sefydliadau cyhoeddus. Cytunwyd bod angen herio a chwalu’r mythau a glywir yn y gweithle a gan y cyhoedd a mae’r adnodd hwn yn gam ymlaen tuag at ymateb i’r her a dangos defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Datblygwyd y gwaith hwn yn rhanbarthol, gyda mewnbwn gan sefydliadau ar draws gogledd Cymru.Comisiynwyd Jessica John, Tylwyth (Tylwyth, Ymgynghorydd Treftadaeth Ddiwylliannol) i greu adnodd cefnogol a defnyddiol a fyddai’n chwalu’r mythau sy’n bodoli mewn perthynas â’r Iaith Gymraeg yn y gweithle. Mae modd defnyddio’r adnoddau o fewn y sefydliadau cyhoeddus i ennyn trafodaeth ymysg staff am y mythau, eu defnyddio i hyrwyddo cyfleoedd gwaith a swyddi o safon a normaleiddio’r defnydd o Gymraeg, beth bynnag yw’r gallu.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar brofiadau unigolion, mythau cyffredin am y Gymraeg yn y gweithle, a’r ffactorau seicolegol a strwythurol sy’n dylanwadu ar recriwtio, hyder a defnydd o’r iaith.

Gwelir esiamplau o’r mythau a gafodd eu rhannu yn ystod y cyfnod ymgynghorol, sef y rhai a glywyd sawl gwaith. Cafodd y mythau hyn eu profi gan siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, Cymry o aelwydydd Saesneg a dysgwyr fel ei gilydd, ond yn cael eu mynegi mewn ffyrdd gwahanol, drwy bryderon am safon, hyder neu berthyn.

Esiamplau o’r mythau glywyd yn aml oedd “Dwi’m yn ‘fluent’ – dwi methu treiglo” a “Peidiwch â rhoi’r Gymraeg ar y disgrifiad swydd – fydd neb yn gwneud cais.”

Mae’r dyfyniadau gan aelodau staff y sefydliadau cyhoeddus yn rhoi mewnwelediad i’r defnydd o’r iaith yn y gweithle a’i bwysigrwydd, er enghraifft y dyfyniad gan nyrs Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr –“Jyst tria’r basics a trïa phrases bob diwrnod fel ‘bore da’ ‘noswaith dda’ ac ‘wyt ti’n oce?’ – mae’n helpu cleifion a staff i deimlo’n gyfforddus” ac ymateb aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru “Rwy’n defnyddio profiadau fy nghydweithwyr i wella fy Nghymraeg”.

Ffeiliau Sefydliadau Cyhoeddus:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru

Parc Cenedlaethol Eryri

Am rhagor o wybodaeth am brosiectau Cymraeg y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwynedd a Môn cysylltwch â: BGC-PSB@gwynedd.llyw.cymru

Ffeiliau Cefnogi:

Casgliad Fideo (Compilation reel, Rîl Lansiad)

Wedi’i gopïo i’r clypfaen!
Agenda

Cefnogi partneriaethau ledled Gogledd Cymru drwy gydweithio ac arloesi.

Dolenni Cyflym

  • Amdanom
  • Ein partneriaethau
  • Dyddiadau allweddol
  • Mewnwelediadau

Partneriaethau

  • BGC Gwynedd ac Ynys Môn
  • BGC Conwy a Sir Ddinbych
  • BGC Sir y Fflint a Wrecsam

© 2026 Agenda.cymru. Cedwir pob hawl.

Gwefan gan Tropic

  • Preifatrwydd
  • Cwcis